compteur de visite html

Ok

En poursuivant votre navigation sur ce site, vous acceptez l'utilisation de cookies. Ces derniers assurent le bon fonctionnement de nos services. En savoir plus.

  • Eisteddfod Cenedlaethol 2017

    Annwyl Ymwelwyr Eisteddfod Cenedlaethol 2017,

    Diolch am gymryd rhan yn ein harolwg ymchwil academaidd am eich profiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ym mis Awst 2017, prosiect ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol â Grwp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd. Gwnaethoch chi nodi yr hoffech adborth am yr arolwg, felly yr ydym yn ysgrifennu atoch nawr i gadw ein haddewid.

    Demograffeg

    Cawsom dros 1,200 o ymatebion llawn. Mae cyfran helaeth o ymatebwyr (64%) wedi  mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol 11 o weithiau neu fwy, gan ddangos sylfaen gynulleidfa ffyddlon iawn. Dim ond 5.3% oedd yn ymweld am y tro cyntaf. O ran hyd yr arhosiad, mynychodd 42% yr Eisteddfod Genedlaethol am 5 diwrnod neu fwy, ond dim ond 18% a ddaeth am un diwrnod. Gwnaeth bron i hanner yr ymatebwyr (46%) gynllunio eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol fwy na 6 mis ymlaen llaw, tra bod 24% yn cynllunio am 3-6 mis. Teuluoedd a phlant wnaeth ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn bennaf, hefyd,pobl priod gyda’u cyfeillion o bob oedran.

    Mynychiad

    Doedd dim syndod bod 32% o ymatebwyr o Wynedd, 13.6% o Sir Ddinbych a Sir y Fflint a 12.5% o Ynys Môn. Arhosodd oddeutu 65% mewn llety dros nos yn ystod eu harhosiad, gyda safleoedd gwersylla/carafanau yn ddewis poblogaidd. Teithiodd 91% o'r ymatebwyr mewn car i Ynys Môn, yn bennaf oherwydd rhesymau cyfleustra, arbedion amser a bod trafnidiaeth gyhoeddus ddim ar gael neu’n annibynadwy.

    Y rhesymau mwyaf amlwg am fynychu'r ŵyl oedd i fwynhau ac i gefnogi diwylliant Cymru, profi awyrgylch yr ŵyl a threulio amser gyda ffrindiau/teulu. Roedd yn ddiddorol iawn nodi bod 64% yn dal yn chwilfrydig am yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Y lleoedd mwyaf poblogaidd yr ymwelwyd â nhw yn ystod yr ŵyl oedd Llwyfan Y Maes (llwyfan awyr agored), Y Lle Celf (Cyngherddau Celfyddydau Gweledol a Phensaernïaeth), cyngherddau gyda'r nos, y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y Ty Gwerin (Digwyddiadau Gwerin a Thraddodiadol) a'r Babell Lên. O ran gweithgareddau’r Wyl, edrych ar stondinau ac arddangosfeydd, edrych ar berfformiadau byw a thrafod diwylliant Cymru oedd y mwyaf poblogaidd.

    Bodlonrwydd ac Emosiynau

    Yn llethol, yr oeddech yn fodlon iawn â'ch profiad yn 2017. Roedd 93%  syfrdanol yn fodlon iawn/yn fodlon gydag awyrgylch yr Eisteddfod Genedlaethol, ansawdd y digwyddiadau a chystadlaethau a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau. Fodd bynnag, mae lle i wella o ran 'cyfleusterau toiled' a 'gwerth am arian'.

    Gofynnwyd cwestiynau am yr emosiynau yr oeddech chi'n teimlo wrth fynychu'r ŵyl. Roedd 89% yn teimlo emosiynau cryf neu cryf iawn o hapusrwydd. Credwch ef neu beidio, roedd llai na 10% yn teimlo'n ddig, ond roedd 78% yn optimistaidd a gobeithiol ac roedd 85% yn teimlo'n llawen. Mae'n galonogol gweld bod dros 90% wedi mwynhau rhannu'r profiad o fynychu'r ŵyl gyda phobl y maen nhw'n ei adnabod a teimlo bod mynychu'r ŵyl yn rhoi cyfle iddynt ymuno â ffrindiau/teulu. Teimlai 60% fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â gwylwyr eraill sydd â diddordebau tebyg.

    Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei ystyried fel ŵyl dilys gyda 85% yn mwynhau profiad unigryw ac addysgol yr ŵyl a 77% yn teimlo bod yr ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cipolwg trylwyr ar ddiwylliant Cymru a 75% yn teimlo wedi eu ysbrydoli gan y teimlad o’u hamgylch.

    Gofynnom i chi ddweud wrthym y tri phrif beth a ddaeth i'ch meddwl mewn cysylltiad â'ch ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol. O'r data, mae'n amlwg bod awyrgylch a theimlad cymunedol yr ŵyl yn themâu cryf ar gyfer y rhan fwyaf o ymatebwyr gyda sylwadau fel 'parchus, gonest, ennill', 'awyrgylch gwych, digon o siarad Cymraeg, rhywbeth yn addas i bawb',' bwrw mewn i ffrindiau ',' cymdeithasu, cystadlu, yfed '. Roedd yna hefyd atgofion penodol iawn megis colli pwysau oherwydd yr holl gerdded roeddent wedi gorfod eu gwneud: "mae cerdded yn ol ac ymlaen wedi gwneud byd o les i'r pwysau!" ac wrth gwrs nododd nifer ar y tywydd gwael a'r llaid, e.e. 'Canu a chwarae rhyfeddol. Ail ddiwrnod wedi ei adfeilio gan y tywydd ',' Glaw mawr ddydd Sul! Gwasanaeth gwennol effeithiol o ddydd Mawrth '. Derbyniwyd nifer o sylwadau defnyddiol ar gyfer gwelliant, fel bod angen Cynllun B ar gyfer tywydd gwael "rhaid cael cynllun B pan fydd yn bwrw glaw", mwy o ddewis o fwyd, mwy o fariau, arwyddion/mapiau gwell, mwy o weithgareddau i blant a mewn mannau 'yn rhy addysgol'. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dadansoddi'r rhain yn llawn ac yn eu defnyddio ar gyfer trefnu gŵyl 2018.

    Teyrngarwch

    Credwn y gall yr Eisteddfod Genedlaethol fod yn falch iawn o'u sylfaen ymwelwyr ffyddlon. Roedd dros 90% yn 'debygol / tebygol iawn' i fynychu'r ŵyl eto yn y dyfodol, ac yn argymell a dweud pethau cadarnhaol am yr Eisteddfod Genedlaethol i bobl eraill. Mae'r dyfodol yn edrych yn dda i Gaerdydd gyda dros ddwy ran o dair (68.16%) o ymatebwyr yn datgan eu bod yn bwriadu mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Roedd yn galonogol gweld bod dros 60% o'r ymatebwyr yn 'debygol / tebygol iawn' i fynychu digwyddiadau diwylliannol Cymreig arall ac yn dilyn bandiau cerddorol / artistiaid / awduron, ayb, a ddarganfuwyd yn yr ŵyl. Dywedodd bron i 60% o ymatebwyr eu bod yn bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol ac roedd 49% am ddysgu mwy am y diwylliant Cymreig, gan awgrymu bod effaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ymhell y tu hwnt i'r ŵyl ei hun.

    Y Prosiect Ymchwil

    Pam yr ydym yn gwneud yr ymchwil hwn? Yn rhannol, monitro profiadau a boddhad ymwelwyr arferol yw hwn fel y gall rheolwyr yr Eisteddfod Cenedlaethol sicrhau eu bod yn cyrhaedd disgwyliadau’r ymwelwyr. Mae Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd hefyd yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae Ysgol Fusnes Caerdydd 6ed allan o 101 yn y DU ar gyfer ansawdd ein hymchwil ac yn 1af ar gyfer amgylchedd ymchwil (REF2014). Rydym hefyd yn gyson fel un o ddwy ysgol fusnes yn y DU yn y 10 uchaf ym mhob ymarfer ymchwil y llywodraeth ers 1992. Fel canolfan ragoriaeth byd-eang mewn ymchwil busnes, rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Os wnaethoch rhoi gwybod eich bod yn cytuno i ni gysylltu â chi eto, byddwn yn ysgrifennu atoch yn hwyrach y mis yma i gymryd rhan mewn arolwg dilynol byr sy'n ceisio deall effaith hirdymor ac etifeddiaeth Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Yn olaf, ar ran Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol, diolchaf i chi eto am gyfrannu at yr arolwg. Hefyd, hofffwn eich hatgoffa y bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil hwn yn unig, a byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel, byth yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd barti, ac ni chaiff ei ddefnyddio gan y Brifysgol na'r Eisteddfod Genedlaethol at unrhyw ddiben heblaw am y prosiect ymchwil hwn.

     

    Cofion cynnes,

     

    Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd

    Dr Nicole Koenig-Lewis (Ysgol Fusnes Caerdydd)

    Dr Andrea Collins (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio)