Annwyl Ymwelwyr Eisteddfod Cenedlaethol 2017,
Diolch am gymryd rhan yn ein harolwg ymchwil academaidd am eich profiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ym mis Awst 2017, prosiect ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol â Grwp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd. Gwnaethoch chi nodi yr hoffech adborth am yr arolwg, felly yr ydym yn ysgrifennu atoch nawr i gadw ein haddewid.
Demograffeg
Cawsom dros 1,200 o ymatebion llawn. Mae cyfran helaeth o ymatebwyr (64%) wedi mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol 11 o weithiau neu fwy, gan ddangos sylfaen gynulleidfa ffyddlon iawn. Dim ond 5.3% oedd yn ymweld am y tro cyntaf. O ran hyd yr arhosiad, mynychodd 42% yr Eisteddfod Genedlaethol am 5 diwrnod neu fwy, ond dim ond 18% a ddaeth am un diwrnod. Gwnaeth bron i hanner yr ymatebwyr (46%) gynllunio eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol fwy na 6 mis ymlaen llaw, tra bod 24% yn cynllunio am 3-6 mis. Teuluoedd a phlant wnaeth ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn bennaf, hefyd,pobl priod gyda’u cyfeillion o bob oedran.
Mynychiad
Doedd dim syndod bod 32% o ymatebwyr o Wynedd, 13.6% o Sir Ddinbych a Sir y Fflint a 12.5% o Ynys Môn. Arhosodd oddeutu 65% mewn llety dros nos yn ystod eu harhosiad, gyda safleoedd gwersylla/carafanau yn ddewis poblogaidd. Teithiodd 91% o'r ymatebwyr mewn car i Ynys Môn, yn bennaf oherwydd rhesymau cyfleustra, arbedion amser a bod trafnidiaeth gyhoeddus ddim ar gael neu’n annibynadwy.
Y rhesymau mwyaf amlwg am fynychu'r ŵyl oedd i fwynhau ac i gefnogi diwylliant Cymru, profi awyrgylch yr ŵyl a threulio amser gyda ffrindiau/teulu. Roedd yn ddiddorol iawn nodi bod 64% yn dal yn chwilfrydig am yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y lleoedd mwyaf poblogaidd yr ymwelwyd â nhw yn ystod yr ŵyl oedd Llwyfan Y Maes (llwyfan awyr agored), Y Lle Celf (Cyngherddau Celfyddydau Gweledol a Phensaernïaeth), cyngherddau gyda'r nos, y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y Ty Gwerin (Digwyddiadau Gwerin a Thraddodiadol) a'r Babell Lên. O ran gweithgareddau’r Wyl, edrych ar stondinau ac arddangosfeydd, edrych ar berfformiadau byw a thrafod diwylliant Cymru oedd y mwyaf poblogaidd.
Bodlonrwydd ac Emosiynau
Yn llethol, yr oeddech yn fodlon iawn â'ch profiad yn 2017. Roedd 93% syfrdanol yn fodlon iawn/yn fodlon gydag awyrgylch yr Eisteddfod Genedlaethol, ansawdd y digwyddiadau a chystadlaethau a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau. Fodd bynnag, mae lle i wella o ran 'cyfleusterau toiled' a 'gwerth am arian'.
Gofynnwyd cwestiynau am yr emosiynau yr oeddech chi'n teimlo wrth fynychu'r ŵyl. Roedd 89% yn teimlo emosiynau cryf neu cryf iawn o hapusrwydd. Credwch ef neu beidio, roedd llai na 10% yn teimlo'n ddig, ond roedd 78% yn optimistaidd a gobeithiol ac roedd 85% yn teimlo'n llawen. Mae'n galonogol gweld bod dros 90% wedi mwynhau rhannu'r profiad o fynychu'r ŵyl gyda phobl y maen nhw'n ei adnabod a teimlo bod mynychu'r ŵyl yn rhoi cyfle iddynt ymuno â ffrindiau/teulu. Teimlai 60% fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â gwylwyr eraill sydd â diddordebau tebyg.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei ystyried fel ŵyl dilys gyda 85% yn mwynhau profiad unigryw ac addysgol yr ŵyl a 77% yn teimlo bod yr ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cipolwg trylwyr ar ddiwylliant Cymru a 75% yn teimlo wedi eu ysbrydoli gan y teimlad o’u hamgylch.
Gofynnom i chi ddweud wrthym y tri phrif beth a ddaeth i'ch meddwl mewn cysylltiad â'ch ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol. O'r data, mae'n amlwg bod awyrgylch a theimlad cymunedol yr ŵyl yn themâu cryf ar gyfer y rhan fwyaf o ymatebwyr gyda sylwadau fel 'parchus, gonest, ennill', 'awyrgylch gwych, digon o siarad Cymraeg, rhywbeth yn addas i bawb',' bwrw mewn i ffrindiau ',' cymdeithasu, cystadlu, yfed '. Roedd yna hefyd atgofion penodol iawn megis colli pwysau oherwydd yr holl gerdded roeddent wedi gorfod eu gwneud: "mae cerdded yn ol ac ymlaen wedi gwneud byd o les i'r pwysau!" ac wrth gwrs nododd nifer ar y tywydd gwael a'r llaid, e.e. 'Canu a chwarae rhyfeddol. Ail ddiwrnod wedi ei adfeilio gan y tywydd ',' Glaw mawr ddydd Sul! Gwasanaeth gwennol effeithiol o ddydd Mawrth '. Derbyniwyd nifer o sylwadau defnyddiol ar gyfer gwelliant, fel bod angen Cynllun B ar gyfer tywydd gwael "rhaid cael cynllun B pan fydd yn bwrw glaw", mwy o ddewis o fwyd, mwy o fariau, arwyddion/mapiau gwell, mwy o weithgareddau i blant a mewn mannau 'yn rhy addysgol'. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dadansoddi'r rhain yn llawn ac yn eu defnyddio ar gyfer trefnu gŵyl 2018.
Teyrngarwch
Credwn y gall yr Eisteddfod Genedlaethol fod yn falch iawn o'u sylfaen ymwelwyr ffyddlon. Roedd dros 90% yn 'debygol / tebygol iawn' i fynychu'r ŵyl eto yn y dyfodol, ac yn argymell a dweud pethau cadarnhaol am yr Eisteddfod Genedlaethol i bobl eraill. Mae'r dyfodol yn edrych yn dda i Gaerdydd gyda dros ddwy ran o dair (68.16%) o ymatebwyr yn datgan eu bod yn bwriadu mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Roedd yn galonogol gweld bod dros 60% o'r ymatebwyr yn 'debygol / tebygol iawn' i fynychu digwyddiadau diwylliannol Cymreig arall ac yn dilyn bandiau cerddorol / artistiaid / awduron, ayb, a ddarganfuwyd yn yr ŵyl. Dywedodd bron i 60% o ymatebwyr eu bod yn bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol ac roedd 49% am ddysgu mwy am y diwylliant Cymreig, gan awgrymu bod effaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ymhell y tu hwnt i'r ŵyl ei hun.
Y Prosiect Ymchwil
Pam yr ydym yn gwneud yr ymchwil hwn? Yn rhannol, monitro profiadau a boddhad ymwelwyr arferol yw hwn fel y gall rheolwyr yr Eisteddfod Cenedlaethol sicrhau eu bod yn cyrhaedd disgwyliadau’r ymwelwyr. Mae Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd hefyd yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae Ysgol Fusnes Caerdydd 6ed allan o 101 yn y DU ar gyfer ansawdd ein hymchwil ac yn 1af ar gyfer amgylchedd ymchwil (REF2014). Rydym hefyd yn gyson fel un o ddwy ysgol fusnes yn y DU yn y 10 uchaf ym mhob ymarfer ymchwil y llywodraeth ers 1992. Fel canolfan ragoriaeth byd-eang mewn ymchwil busnes, rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol.
Os wnaethoch rhoi gwybod eich bod yn cytuno i ni gysylltu â chi eto, byddwn yn ysgrifennu atoch yn hwyrach y mis yma i gymryd rhan mewn arolwg dilynol byr sy'n ceisio deall effaith hirdymor ac etifeddiaeth Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn olaf, ar ran Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol, diolchaf i chi eto am gyfrannu at yr arolwg. Hefyd, hofffwn eich hatgoffa y bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil hwn yn unig, a byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel, byth yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd barti, ac ni chaiff ei ddefnyddio gan y Brifysgol na'r Eisteddfod Genedlaethol at unrhyw ddiben heblaw am y prosiect ymchwil hwn.
Cofion cynnes,
Grŵp Ymchwil Gŵyl Prifysgol Caerdydd
Dr Nicole Koenig-Lewis (Ysgol Fusnes Caerdydd)
Dr Andrea Collins (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio)