Roedd Gwyn yn enedigol o ardal Tregaron a'i anwybodaeth am Henry Richard, sydd â'i gofgolofn ar y sgwâr, a'i ysgogodd i ddysgu mwy amdano.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei wraig, Gwen: "Y rheswm iddo gyhoeddi cyfrolau - un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg - am Henry Richard oedd ei fod yn gweld ei gofgolofn bob dydd ond yn gwybod y nesa' peth i ddim amdano.
"Aeth ati i ddarganfod mwy ac ymddiddorodd yn fawr yn ei hanes."
'Byth yn llonydd'
Yn ei ddyddiau cynnar yr oedd Gwyn yn drefnydd yr Urdd yn Sir Benfro. Wedi hynny aeth i olygu cylchgronau'r Urdd ac yna bu'n gohebu i'r Cymro.
Bu hefyd yn swyddog y wasg ac yn bennaeth y wasg yn BBC Cymru ac er iddo ymddeol ar un adeg aeth yn ôl i weithio i'r BBC gan ysgrifennu newyddion i'r wefan.
Ychwanegodd Gwen: "Doedd e byth yn llonydd, ar ôl iddo ymddeol fe wnaeth e radd yn y coleg newyddiadurol ac yna ailddechrau gweithio.
"Ond Llydaw oedd ei ddiddordeb mawr. Fe aethon yno ar wyliau ac fe ddechreuodd Gwyn ymddiddori yn fawr yn yr iaith - yn wir fe ddechreuodd fagu diddordeb mawr mewn lot o ieithoedd lleiafrifol."
Yn 1977 fe gyhoeddodd lyfr ar grwydro Llydaw, ac yn 2000 fe gyhoeddodd lyfr ar lên a llwybrau Llydaw.
"Roedd ganddo ddiddordeb mawr hefyd yn hanes y Sioni Winwns, roedd yn arfer gweld hwnnw yng Nghaerdydd ac roedd yn awyddus i gofnodi ei hanes cyn iddo fynd ar ddifancoll - ac fe gyhoeddodd lyfr yn Gymraeg a Saesneg."
'Adroddwr stori dda'
Yn 2015 fe gyhoeddodd ei hunangofiant ac yn ei adolygiad o'r gyfrol fe ddywedodd ei gyfaill Lyn Ebenezer: "Fel newyddiadurwr, addysgwyd Gwyn i adnabod stori dda. Ond fedr neb eich addysgu i adrodd stori dda.
"Mae honno'n gynneddf reddfol. Ac mae hi gan Gwyn."
Roedd Gwyn yntau yn adolygydd cyson i gylchgronau a gwefan Gwales, ac yn ogystal, ysgrifennodd yn helaeth ar Evan James ac ar hanes cyfansoddi Hen Wlad fy Nhadau.
Fe gyhoeddodd ei lyfr olaf ar y cyd â'r awdur Meic Stephens sef Old Red Tongue - An Anthology of Welsh Literature yn haf 2017.
Mae'n gadael gwraig Gwen a phedwar o blant Eleri, Gildas, Ffion a Trystan.
BBC Cymru